- {{ error }}
link text###Croeso i wefan Derbyn i Ysgolion Ar-lein Cyngor Sir Fynwy
Gall rhieni/gwarcheidwaid Sir Fynwy ddefnyddio’r cyfleuster hwn i wneud cais i’w plant/plentyn ddechrau Meithrinfa, Ysgol Gynradd, trosglwyddo o Ysgol Gynradd i Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2022 a hefyd ar gyfer trosglwyddo o un ysgol i ysgol arall yn ystod blwyddyn academaidd.
Cyn i chi ddechrau, cymerwch ychydig o amser i astudio'r Llyfryn Dechrau Ysgol
a Canllawiau Uwchradd neu’r Canllawiau Cynradd.pdfgan fod hyn yn rhoi gwybodaeth allweddol i chi a fydd yn berthnasol i'ch cais
Nodwch mai dim ond ar y dyddiadau canlynol y gallwch ddefnyddio'r cyfleuster hwn i wneud cais ar gyfer derbyn Meithrin, Cynradd ac Uwchradd:
- I ddechrau Meithrinfa ym mis Medi 2023 - 8 Gorffennaf 2022 i 16 Medi 2022
- I drosglwyddo i'r Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2023 - 21 Medi 2022 i 24 Tachwedd 2021
- I gychwyn Ysgol Gynradd (Dosbarth Derbyn) ym mis Medi 2023 - 2 Tachwedd 2022 i 11 Ionawr 2022
Mae’r cyfleuster hwn ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd ar gyfer ceisiadau trosglwyddo yn ystod y flwyddyn.
Cyn i chi ddechrau, mae'n ofynnol i rieni/warcheidwaid gofrestru. Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael e-bost at eich cyfrif e-bost enwebedig a bydd angen i chi actifadu'ch cyfrif drwy'r e-bost hwn cyn i chi allu bwrw ymlaen. Unwaith y bydd eich cofrestriad wedi'i gwblhau, byddwch yn gallu bwrw ymlaen â'ch cais ar-lein, gan fanylu ar hyd at 3 dewis ysgol. Gellir gweld a diwygio'ch cais ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad cau. Unwaith y byddwch wedi cofrestru a chreu enw mewngofnodi, gallwch ddefnyddio’r un enw mewngofnodi i wneud cais ar gyfer pob cylch derbyn.
Gobeithiwn y bydd y cyfleuster hwn o gymorth i chi wrth wneud eich cais ar-lein, fodd bynnag, os cewch unrhyw anawsterau, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i'ch cefnogi drwy gydol y broses ymgeisio
Tîm Derbyn i Ysgolion